Mr Charles Walker AS
 Cadeirydd, Y Pwyllgor Gweithdrefn
 Tŷ’r Cyffredin
 Llundain
 SW1A 0AA

25 Ebrill 2017

 

Annwyl Mr Walker

YMCHWILIAD I BWERAU DIRPRWYEDIG YM ‘MIL Y DIDDYMU MAWR’

Cyfeiriaf at y cais am gyflwyniadau i'ch ymchwiliad ar bwerau dirprwyedig ym Mil y Diddymu Mawr yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth y DU.

Hoffem dynnu eich sylw at rai o'n syniadau a phryderon cychwynnol wrth i ni ddechrau ystyried yr effaith y bydd gadael yr UE yn ei chael ar ddeddfu yng Nghymru.  Nodir y rhain isod. Fodd bynnag, fel y byddwch yn deall, gyda chymaint o ffactorau anhysbys ar hyn o bryd, mae'n dasg anodd i roi barn bendant ar fater mor gymhleth.

Atebolrwydd ar gyfer newid deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig 

Ein man cychwyn bob amser yn bod yn rhaid mai'r Cynulliad Cenedlaethol fydd y ddeddfwrfa sy'n gyfrifol am ddeddfu mewn meysydd datganoledig. Mae hyn yn cynnwys pasio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, a dirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu sy'n briodol (rydym yn cydnabod bod llawer o faterion datganoledig yn parhau i fod mewn Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig, ond maent yn dal i fod yn faterion datganoledig ac mae unrhyw newidiadau i Ddeddfau Senedd y DU o'r fath yn fater i'r Cynulliad Cenedlaethol).

Oherwydd yr amgylchiadau a'r cyfyngiadau amser sy'n bodoli mewn perthynas â gadael yr UE, rydym yn pryderu ynghylch sut y bydd Bil y Diddymu Mawr yn ymdrin â'r mater o ddiwygio deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys trwy ddirprwyo pwerau i Weinidogion y DU. Yn benodol, mae ein diddordeb yn canolbwyntio ar a fyddai newidiadau o'r fath yn digwydd gyda chaniatâd y Cynulliad Cenedlaethol, neu heb y caniatâd hwnnw. Os, fel y byddem yn ei llawn ddisgwyl, y bydd angen caniatâd (yn unol â Canllaw ar Ddatganoli Rhif 9: Deddfwriaeth Sylfaenol y Senedd a’r Cynulliad sy’n Effeithio ar Gymru a Rheol Sefydlog 30A y Cynulliad Cenedlaethol -  Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau Statudol a Wneir gan Weinidogion y DU), bydd y dull y mae’r Bil yn ceisio'r caniatâd hwnnw yn bwysig.

O'n safbwynt ni, mae'n fater arwyddocaol o briodoldeb cyfansoddiadol i'r Cynulliad Cenedlaethol fod â rôl mewn unrhyw newidiadau a wneir i'r ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig.

Gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth

Credwn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol fod â'r hawl i wneud penderfyniadau terfynol ar y gweithdrefnau i'w cymhwyso i is-ddeddfwriaeth y mae angen eu gwneud yn y meysydd datganoledig gan Weinidogion Cymru i gyflawni yng Nghymru y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gallai'r gweithdrefnau yn ein barn ni gael eu nodi mewn un neu fwy o Ddeddfau'r Cynulliad Cenedlaethol; byddai nifer a maint y ddeddfwriaeth sylfaenol o'r fath yn cael ei benderfynu gan y nifer o Filiau'r DU (gan gynnwys Bil y Diddymu Mawr) y bydd eu hangen i gyflawni ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. 

O ystyried bod meysydd megis amaethyddiaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd, bwyd ac ati wedi'u datganoli, byddem yn disgwyl gweld cryn dipyn o is-ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer craffu. Nid yn unig y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol reoli'r gweithdrefnau a fydd yn berthnasol i graffu ar y nifer sylweddol hwn o is-ddeddfwriaeth, ond dylai hefyd gael yr hawl i reoli'r amserlen ar gyfer craffu ar yr is-ddeddfwriaeth honno. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gael digon o amser ar gyfer craffu priodol.

Ehangder pwerau "canlyniadol ac ati" a roddir i Weinidogion Cymru

Rydym yn cymryd diddordeb mawr yn ehangder a maint y pwerau canlyniadol a gymerir gan Weinidogion Cymru i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru. Mae gennym felly ddiddordeb yn a fydd pwerau o'r fath yn cael eu darparu i Weinidogion Cymru drwy Fil y Diddymu Mawr, ac, os felly, beth fydd union natur y pwerau hynny.

Rydym yn nodi bod y Papur Gwyn yn sôn am y Bil o bosibl yn rhoi i'r gweinidogion datganoledig bwer i ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig i gywiro cyfraith na fydd bellach yn gweithredu'n briodol, "yn unol â'r" pŵer y mae'n bwriadu y dylai fod gan Weinidogion y DU. Nid yw'n glir a yw'r ymadrodd "yn unol â" yn arwyddocaol; yn ein barn ni, gallai o bosibl fod iddo ystyr gwahanol i "yn cyfateb i".

Yn ogystal, rydym yn awyddus i ddysgu pa eiriad a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddiffinio'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru (a gweinidogion datganoledig eraill) i gywiro cyfraith. Er enghraifft, a fydd y drafftio yn dibynnu ar dermau cyfarwydd megis "canlyniadol" neu a fydd drafftio pwrpasol yn cael ei ddefnyddio? Er ein bod yn pryderu am ehangder a maint y pwerau y gellir eu rhoi i Weinidogion Cymru, rydym hefyd yn cydnabod yr angen i Weinidogion Cymru gael yr offer cywir i gyflawni swyddogaethau angenrheidiol, ond dylent bob amser fod yn destun gwaith craffu a rheolaeth briodol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Cymalau machlud

Rydym yn cefnogi defnyddio cymalau machlud ym Mil y Diddymu Mawr fel bod pwerau perthnasol i gywiro'r llyfr statud yn gyfyngedig o ran amser.  Dylent beidio â bod yn effeithiol, efallai heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl y diwrnod y mae'r DU yn gadael yr UE.  Byddai angen i ni weld tystiolaeth gref o blaid cyfnod hwy, yn enwedig os, yn erbyn y rhesymeg rydym yn tynnu sylw ati uchod, yw'r Bil yn cynnwys pwerau sylweddol i ddiwygio deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig mewn modd yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei wrthwynebu.

Mae ein ffordd o feddwl yn debygol o ddatblygu wrth i fwy o fanylion ddod i'r amlwg am union ffurf drafftio Bil y Diddymu Mawr ond yn y cyfamser rwy'n gobeithio y cewch y cyflwyniad hwn o ddefnydd.

Yn gywir

Huw Irranca-Davies

Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.